Yn Los Angeles heddiw fe ddatgelwyd y bydd Sony yn gwerthu ei PlayStation 4 am bris rhatach na’i gystadleuydd Microsoft.
Bydd y PlayStation 4 yn costio £349 – £80 yn rhatach na’r Xbox One a fydd yn costio £429.
Cyhoeddwyd hefyd na fydd Sony yn rhoi cyfyngiadau ar werthu gemau ail-law. Mae Microsoft, cynhyrchwyr yr Xbox, wedi datgelu y bydd yna gost er mwyn chwarae gemau ail law.
Rhai o nodweddion arbennig y PS4 fydd y gallu i ddarlledu ffrwd byw o’i chwarae, yn ogystal â gallu cael mynediad at ffilmiau, sioeau teledu a cherddoriaeth.
Mi fydd Sony hefyd yn datblygu technoleg ‘Cloud’ gan ganiatáu i berchnogion chwarae eu gemau o hen fodelau PlayStation blaenorol trwy’r rhyngrwyd.
Mae disgwyl i Sony ddechrau gwerthu’r PS4 tuag adeg y Nadolig.