‘Dim ond y Ceidwadwyr sydd wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn ynni niwclear’
Mae Michael Gove, Ysgrifennydd Codi’r Gwastad y Deyrnas Unedig, wedi bod yn siarad â golwg360 yn ystod ymweliad ag Ynys Môn
Beirniadu rhagrith Llafur a’r Ceidwadwyr ynghylch rhoddion
Cafodd y mater ei godi gan Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn ystod cwestiynau am Gymru
Cynllun Datblygu Lleol yn “tanseilio ac anwybyddu” cymunedau lleol
Mae’r Cynghorydd Sam Swash ym Mrychdyn yn poeni y gallai datblygiad newydd roi pwysau ychwanegol ar wasanaethau cyhoeddus lleol
Dynes o Wynedd yn galw am gynllun i ailuno ei theulu Palesteinaidd
Mae gan Emily Fares, o Lwyngwril yng Ngwynedd, nifer o aelodau o’r teulu yn gaeth yn Gaza, ac mae hanner ohonyn nhw bellach wedi ffoi o Rafah
Gyrrwr F1 wedi’i ysbrydoli gan John Ystumllyn
Ar gyfer noson fawreddog yn Efrog Newydd, fe fu Lewis Hamilton yn gwisgo dillad wedi’u hysbrydoli gan ffigwr pwysig yn hanes caethwasiaeth yng …
Disgwyl i ddwy blaid annibyniaeth frwydro am yr ail safle yn etholiadau Catalwnia
Y Sosialwyr fydd yn ennill, medd arbenigwyr, sy’n gosod naill ai Esquerra Republicana neu Junts per Catalunya yn ail
Cymru’n “haeddu gwell” gan Vaughan Gething
Mae tystiolaeth yn awgrymu bod Vaughan Gething wedi cuddio’n fwriadol y ffaith iddo ddileu negeseuon rhyngddo fe a gweinidogion eraill
Comisiynydd Heddlu Gwent yn galw ar Rishi Sunak i ystyried ei ddyfodol
Daw ymateb Jane Mudd ar ôl canlyniadau siomedig i’r Ceidwadwyr yn yr etholiadau lleol yn Lloegr
Disgwyl i John Swinney ddod yn Brif Weinidog yr Alban yr wythnos hon
Roedd disgwyl iddo fe wynebu cystadleuaeth, ond tynnodd un yn ôl ar yr unfed awr ar ddeg, gydag un arall yn penderfynu peidio’i wrthwynebu
Deddf Eiddo, Dim Llai: “Mae’n bryd i ni ddweud ein bod ni wedi cael digon”
Beth Winter, Aelod Seneddol Llafur Cwm Cynon, fu’n siarad â golwg360 yn ystod rali ym Mlaenau Ffestiniog heddiw (dydd Sadwrn, Mai 4)