Mae’r actor Albanaidd, Robert Carlyle, wedi daniio Brexit mewn cyfweliad.

Galwodd yr actor, sydd bellach yn byw yng Nghanada fod yr anghydfod mae Brexit yn achosi yn “drist iawn”.

Dywed ei fod yn poeni am ffrindiau a theulu sy’n gallu cael eu rhannu gan eu barn ar y refferendwm.

Ychwanegodd ei fod yn credu fod Brexit yn “f****** trychineb.”

“Os wnaeth pobl bleidleisio dros aros neu adael, mae hynny rhyngthyn nhw a’u pethau,” meddai Robert Carlyle.

“Ond mae’n ddiddorol i bobl weld sut mae’r byd yn gweld hyn oll. Mae’n edrych fel rhywbeth gwallgof i fod yn digwydd.”

“Mae gennyf ffrindiau adref sydd wedi ffraeo dros hyn, mae teuluoedd yn rhanedig, a dwi’n ei ffeindio hi’n anodd coelio fod rhywbeth gwleidyddol wedi achosi gymaint o anghydfod. Mae’n drist iawn.”