Dywed Adam Price y byddai Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn “gwneud i Rhif 10 wrando ar Gymru”.

Mae Adam Price yn gobeithio gallu anfon y nifer fwyaf erioed o Aelodau Seneddol Plaid Cymru i San Steffan.

Dywedodd wrth bleidleiswyr yn nhref Porthaethwy ddoe fod San Steffan yn gadael Cymru i lawr.

“Mae’n amser gwneud rhywbeth gwahanol,” meddai. “Nid ymddiried yn Boris Johnson na Jeremy Corbyn yw’r ffordd i ddatrys problemau Cymru,

“Mae’n rhaid ymddiried ynon ni ein hunain.”