Mae Cymdeithas yr Iaith yn honni bod ‘tro pedol’ Comisiynydd y Gymraeg i beidio â dirwyo Cyngor Wrecsam yn “gwanhau’r system o warchod hawliau iaith”.
Mewn adroddiad ar Fedi 23, nododd y Comisiynydd fod methiant y Cyngor i ddarparu gohebiaeth trethi yn gywir yn y Gymraeg yn effeithio yn negyddol ar drigolion y sir, trwy ddweud “fod [y Cyngor] wedi methu â chydymffurfio â safon 6, byddaf yn gosod cosb sifil”.
Yn ddiweddarach, dywedodd Swyddfa’r Comisiynydd taw ‘camgymeriad’ oedd y sôn gwreiddiol am osod cosb sifil.
Ond mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn honni mai enghraifft o’r Comisiynydd newydd yn ceisio gwanhau’r system o warchod hawliau iaith yw’r ‘tro pedol’ hwn ynghylch cosbi’r Cyngor.
“Mae’n destun pryder mawr bod llai a llai o gwynion yn destunau ymchwiliad statudol,” meddai Bethan Ruth Roberts, Cadeirydd y Gymdeithas
“Mae gwrthod agor ymchwiliadau i gymaint o gwynion yn gwanhau ein hawliau iaith.
“Heb ymchwiliadau i gwynion, does dim modd gorfodi unrhyw newid i bolisi neu arferion sefydliad. Felly, drwy ymddwyn fel hyn, bydd cyrff yn cael y neges ei bod yn iawn iddyn nhw anwybyddu’r gyfraith.”
Ymateb swyddfa Comisiynydd y Gymraeg
““Ni chafodd y bwriad o osod cosb sifil ei argymell na’i drafod gyda’r Comisiynydd wrth gyflwyno’r adroddiad arfaethedig iddo ei ystyried.
“Fel eglurwyd wrth yr achwynydd mewn llythyr… camgymeriad gweinyddol oedd cynnwys cymal am gosb sifil mewn un rhan o’r adroddiad.
“Mae’n ddrwg gennym am y camgymeriad gweinyddol hwn; a byddwn yn cymryd camau i sicrhau na fydd yn digwydd eto. Gwarchod hawliau siaradwyr Cymraeg yw ein blaenoriaeth.”