Mae 12 potel o win Ffrengig wedi cyrraedd yr Orsaf Ofod Ryngwladol – ond dydyn nhw ddim ar gyfer y gofodwyr.
Bydd y gwin coch o Bordeaux yn arddfefu am flwyddyn yno cyn dychwelyd i’r ddaear cyn i ymchwilwyr astudio sut mae diffyg pwysedd ac ymbelydredd gofod yn effeithio ar y broses.
Y gobaith yw gallu datblygu blasau a phriodweddau newydd ar gyfer y diwydiant bwyd.
Bydd y gwin yn cael ei gymharu â gwin Bordeaux sydd wedi heneiddio ar y Ddaear.
“Mae hwn yn antur unwaith mewn oes,” meddai Nicolas Gaume, prif weithredwr a chyd-sefydlwr Space Cargo Unlimited.