Bydd pobol mwyaf bregus cymdeithas ar eu colled os caiff cynlluniau i foderneiddio llysoedd eu gwireddu, yn ôl Aelodau Seneddol.

Dan y cynlluniau – sydd yng ngofal y Weinyddiaeth Gyfiawnder a beirniaid blaenllaw – byddai llysoedd yn cael eu cau, a byddai gwrandawiadau fideo yn cael eu cynnal yn amlach.

Ond mae Pwyllgor Cyfiawnder Tŷ’r Cyffredin wedi codi “pryderon difrifol” am hyn, gan awgrymu y byddai’n gwneud hi’n anoddach i bobol bregus gael y cymorth cyfreithiol sydd ei angen arnyn nhw.

Galw am “gymryd saib”

“Rydym yn deall ac yn cefnogi’r egwyddor ei bod yn hen bryd i ni foderneiddio,” meddai Cadeirydd y pwyllgor, Bob Neill. 

“Ond rydym hefyd yn gofyn bod y Llywodraeth yn cymryd saib, ac yn cymryd anadl, er mwyn gwneud yn siŵr bod pawb sydd angen y sustem llysoedd … yn medru mynd i’r llysoedd, a phrofi gwasanaethau cyfiander, lle bynnag a phryd bynnag mae angen iddyn nhw wneud hynny.”