hithau’n Galan Gaeaf, mae protestwyr wedi heidio i strydoedd Hong Kong mewn mygydau gan ddwysau tensiynau â’r heddlu.
Ers mis Hydref, mae’r boblogaeth wedi cael eu gwahardd rhag gwisgo mygydau wrth ymgynnull mewn mannau cyhoeddus.
Ond a hithau’n Hydref 31 mae protestwyr wedi penderfynu wfftio’r rheol yma yn llu.
Mae plismyn wedi bod yn gorfodi pobol i adael Lan Kwai Fong – ardal sy’n enwog am ei chlybiau nos a bariau – ac maen nhw wedi tanio nwy dagrau at brotestwyr.
Dyw hi ddim yn glir hyd yma os ydy’r heddlu a’r protestwyr wedi mynd yn benben â’i gilydd, neu os oes unrhyw un wedi cael eu harestio.
Mae protestiadau wedi mynd rhagddynt ers rhai misoedd yn Hong Kong yn ymateb i bryderon am ddylanwad Tsieina.