Bydd gweinidogion Llywodraeth Cymru yn cael ei chwipio i gefnogi cynnig sy’n ceisio sicrhau mai enw dwyieithog fydd gan y Cynulliad pan fydd yn cael ei ail enwi.

Mae disgwyl  i Aelodau Cynulliad fwrw eu pleidlais ar y mater yr wythnos hon (dydd Mercher, Hydref 9).

Mewn cynhadledd i’r wasg neithiwr, cadarnhaodd Mark Drakeford ei fod yn cefnogi gwelliant y cyn-Brif Weinidog, Carwyn Jones, i’r ‘Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru]’.

Mae’r gwelliant hwnnw yn cynnig newid enw’r Cynulliad i ‘Senedd Cymru’ yn Gymraeg, a ‘Welsh Parliament’ yn Saesneg.

Dau enw oherwydd ‘rhesymau cyfreithiol’

Mae Mark Drakeford o’r farn mai’r enw Cymraeg – ‘Senedd’ – fydd yn cael ei ddefnyddio “yn gyffredinol” gan bobol, ond mae hefyd yn dadlau bod angen yr enw Saesneg am resymau cyfreithiol.

“Dw i, yn bersonol, bob tro yn defnyddio’r term ‘Senedd’ a dw i’n siŵr, yn gyffredinol, dyna beth fydd pobol yng Nghymru yn ei wneud,” meddai.

“[Ond] mae dadl wahanol rhwng beth sy’n rhaid i ni ei roi ar bapur, a beth, yn fy marn i, sy’n mynd i gael ei ddefnyddio bob dydd.”

Er y bydd gweinidogion Llywodraeth Cymru yn cael eu hannog i gefnogi gwelliant Carwyn Jones, bydd Aelodau Cynulliad Cynulliad Llafur ar y meinciau cefn yn cael “pleidlais rydd”, ychwanegodd Mark Drakeford.

Newid ei farn

Tan y gynhadledd i’r wasg neithiwr, bu ansicrwydd ynglŷn â pha un a fyddai Mark Drakeford yn galw ar Aelodau Cynulliad Llafur i gefnogi cadw’r enw uniaith Gymraeg ai peidio.

Dywedodd wrth wefan Nation.Cymru ym mis Tachwedd y llynedd – cyn dod yn Brif Weinidog Cymru – ei fod yn ffafrio enw Cymraeg yn unig.

“Pe bai’n rhaid i mi ddewis, byddai’n rhaid i mi fynd am Senedd [yn Gymraeg yn unig] oherwydd dw i’n awyddus i ddatblygu ein sefydliad mewn ffordd sydd ddim yn ddibynnol ar fodelau eraill sydd eisoes yn bodoli,” meddai Mark Drakeford.

Mae Plaid Cymru a Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, o blaid enw uniaith Gymraeg, tra bo Andrew RT Davies o’r Ceidwadwyr Cymreig yn llafar o blaid enw dwyieithog.