Mae aelod blaenllaw o gabinet Cyngor Sir Powys yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder heddiw (dydd Mercher, Medi 25) yn sgil adroddiad beirniadol am wasanaethau addysg y sir.

Bydd y cyngor yn cynnal cyfarfod arbennig er mwyn trafod dyfodol y cynghorydd, Myfanwy Alexander, sy’n gyfrifol am bortffolio Dysgu a’r Iaith Gymraeg.

Mae’r cynnig gerbron y cyfarfod yn nodi “nad oes gan y Cyngor hwn hyder” yn y cynghorydd Annibynnol i fynd i’r afael â’r “gwendidau” a gafodd eu nodi mewn adroddiad gan Estyn ym mis Gorffennaf.

Mae hefyd yn dweud bod “llawer ohonynt yn wendidau a nodwyd yn flaenorol gan Estyn (2007 a 2011) a Swyddfa Archwilio Cymru (2012 a 2017).

Yn ôl adroddiad diweddaraf Estyn, mae yna “faterion allweddol o fewn gwasanaethau addysg y mae’r cyngor wedi ei chael hi’n anodd eu gwella dros gyfnod o flynyddoedd.”

Dau aelod yn ymddiswyddo

Yn y cyfamser, mae dau aelod o gabinet Cyngor Sir Powys wedi ymddiswyddo ar drothwy newidiadau a fydd yn cael eu cyhoeddi gan yr arweinydd, Rosemarie Harris, “o fewn ychydig dyddiau”.

Roedd y Cynghorydd Martin Weale yn gyfrifol am bortffolio yr Economi a Chynllunio, a’r Cynghorydd Stephen Hayes yn gyfrifol am bortffolio Gofal Cymdeithasol Oedolion.

“Mae eu penderfyniadau’n rhoi cyfle i mi adolygu cyfrifoldebau portffolios y cabinet fel rhan o achos busnes i sicrhau bod gennym y cydbwysedd cywir ar gyfer strwythur gweithredu’r cyngor,” meddai Rosemarie Harris.

Mae’r arweinydd yn bwriadu “ehangu” y cabinet trwy ychwanegu dau aelod newydd – un o’r Grŵp Annibynnol ac un arall o’r Grŵp Ceidwadol.