Mae Placido Domingo, y canwr opera, wedi canslo’i holl berfformiadau gyda Metropolitan Opera am y tro yn sgil honiadau ynghylch ei ymddygiad rhywiol.

Roedd disgwyl iddo ganu yn y perfformiad cynta’r tymor hwn o Macbeth heno (nos Fercher, Medi 25), ei berfformiad cyntaf yn yr Unol Daleithiau ers yr honiadau.

Roedd e wedi bod yn paratoi at heno, ac fe gadarnhaodd y Met nos Lun y byddai’r perfformiad yn mynd yn ei flaen.

Ond mae’n ymddangos y bu tro pedol, gyda’r cwmni’n dweud bod “angen iddo gamu o’r neilltu”.