Mae gweinidog yng nghabinet yr wrthblaid yn San Steffan, wedi honni fod prif strategydd Boris Johnson, Dominic Cummings yn drewi o alcohol neithiwr (nos Fawrth, Medi 3).
Mae Cat Smith wedi gwneud yr honiad ar ôl iddo herio arweinydd y blaid Lafur wedi iddo wrthod i etholiad dirybudd gan ddweud: “Tyrd yn dy flaen Jeremy, beth am gael etholiad, paid â bod ofn.”
Mae ffigwr tu fewn i’r llywodraeth wedi esgeuluso’r honiad gan ddweud mai: “honiadau gan Lafur i ddrysu pobl oddi wrth eu hymdrechion i osgoi etholiad.”