Mae’r Cynghorydd Aldean Channer wedi dod dan y lach wedi iddi ddweud ar-lein yn gynharach yr wythnos hon bod “miloedd ar filoedd o bunnau” yn cael eu gwastraffu ar wasanaethau cyfieithu Cymraeg, ac y dylai’r arian gael ei wario ar wasanaethau lleol eraill yn hytrach.
Roedd yr aelod Ceidwardol o Gyngor Tref Llanrwst hefyd wedi honni – mewn neges ar wefan Facebook – mai dim ond 2% o boblogaeth Cymru sy’n siarad Cymraeg, cyn mynd ymlaen mewn neges arall i ddweud mai Saesneg yw “mamiaith” ynys Prydain.
Wrth siarad â golwg360, mae Aldean Channer wedi cadarnhau iddi wneud y sylwadau ar Facebook, ac mae’n mynnu na wnaeth hi ddweud “unrhyw beth o’i le”.
“Yr hyn dw i’n ceisio ei ddweud yw bod rhaid i bobol groesi’r ffin er mwyn mynd i ysbytai…” meddai Aldean Channer wrth golwg360, “ac mae pobol leol yn fan hyn angen tai a does dim arian ar gael yma.
“Does dim angen cael gwared ar wasanaethau cyfieithu yn gyfan gwbwl. Ond mae rhai cynghorau yn gorwario ar gyfieithu.”
Maer Llanrwst yn gwrthod y sylwadau
Mewn ymateb i’r sylwadau, mae Maer Llanrwst, Huw Prys Jones, yn pwysleisio “nad yw sylwadau’r cynghorydd yn adlewyrchu barn y cyngor mewn unrhyw ffordd”.
“Fel Maer y dref, does gen i ddim rheolaeth na chyfrifoldeb dros yr hyn y gall cynghorydd unigol fod yn ei wneud,” meddai.
“Er cymaint dw i’n gwrthwynebu unrhyw sylwadau sy’n diraddio’r Gymraeg, yn enwedig rhai sy’n seiliedig ar wybodaeth ffeithiol anghywir, does gen i ddim bwriad bod yn rhan o ffrae gyhoeddus efo un o’m cyd-gynghorwyr.
“Yr hyn sy’n llawer pwysicach ydi nodi mai un o gynghorwyr swyddogol y Ceidwadwyr honedig Gymreig sy’n gwneud y sylwadau hyn, rhywbeth sy’n codi cwestiynau am agweddau ffigurau mwy blaenllaw ohoni at y Gymraeg.”