Mae dyn o Arfordir Ifori wedi atseinio’r galw am hawliau iaith cydradd i ffoaduriaid yng Nghymru.
Dan y drefn bresennol, mae modd i ffoaduriaid dderbyn gwersi Saesneg am ddim trwy bolisi Llywodraeth Cymru, ond dyw hynny ddim yn wir am y Gymraeg.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Llywodraeth Cymru i newid y drefn fel nad oes yn rhaid i ffoaduriaid dalu am wersi Cymraeg, a bellach mae’r ffoadur, Joseph Gnagbo, wedi’u cefnogi.
“Dw i’n teimlo’n dda iawn [am yr ymgyrch],” meddai wrth golwg360.
“Dw i’n hapus gweithio gyda Chymdeithas yr Iaith. Dw i’n barod i helpu gyda’r iaith… Dw i’n gobeithio y bydd yn bosib i bobol ddysgu Cymraeg am ddim fel Saesneg.”
Mae Joseph Gnagbo yn siarad wyth iaith gan gynnwys y Gymraeg, ac mi dderbyniodd gwersi cychwynnol am ddim gan Brifysgol Caerdydd.
Ffoi o Arfordir Ifori
Bu’n rhaid i Joseph Gnagbo ffoi o Arfordir Ifori ar ôl iddo sgwennu rap yn cefnogi’r Arlywydd, Laurent Gbagbo; ac wedi i wrthryfelwyr feddu’r ddinas yr oedd yn byw ynddi.
Mae’n dweud ei fod yn dal yn “drist iawn oherwydd dyw’r sefyllfa ddim wedi newid” yno, ac mae’n ategu bod pobol “ddim yn rhydd” i siarad yno.
“Dw i’n meddwl am Arfordir Ifori bob dydd achos mae fy mhlant yn byw yno gyda fy chwaer,” meddai. “Dw i’n trio siarad â nhw bob wythnos. Mae llawer o atgofion gyda fi am Arfordir Ifori.”
Mae ganddo dau blentyn yn y wlad.
Cymru a’r Gymraeg
Ar ôl ffoi i Foroco mi geisiodd am loches yn y Deyrnas Unedig, ac wedi cyfnod yn byw yn Llundain mi gafodd ei symud gan y Swyddfa Gartref i Gymru.
Doedd e ddim yn gwybod llawer am Gymru cyn symud, ond ar ôl cyrraedd penderfynodd o fewn dim ei fod am ddysgu’r iaith.
“Doeddwn i ddim yn gwybod llawer am y Gymraeg,” meddai. “Pan symudais i Gymru, mi glywais am y Gymraeg a gofynnais yn syth i ddysgu Cymraeg…
“Mae’n wahanol, ond dyw e ddim yn rhy anodd. Mae jest yn wahanol. Mae rhai geiriau tipyn bach yn debyg i eiriau Ffrangeg.”
Gallwch weld fideo o Joseph Gnagbo ar faes yr Eisteddfod islaw…