Fe all ffermio mwy cynaliadwy, newid i ddeiet sydd â llai o gig, a lleihau gwastraff bwyd, fod o gymorth wrth fynd i’r afael a newid yn yr hinsawdd.
Dyna gasgliad adroddiad sydd wedi cael ei gyflwyno gerbron y Cenhedloedd Unedig ac sy’n canolbwyntio ar y rôl sydd gan dir mewn atal cynhesu byd eang.
Mae’r adroddiad gan y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd yn rhybuddio bod y cynnydd yn nhymheredd y byd am fod yn ergyd i ddiogelwch y cyflenwad bwyd a gwneud achosion o dywydd eithafol yn fwy cyffredin.
Yn ôl yr adroddiad, mae tua chwarter y nwyon tir gwydr sy’n cael eu cynhyrchu gan bobol yn dod o’r defnydd o’r tir.
Ond mae modd atal y broblem, meddai wedyn, drwy ffermio yn fwy cynaliadwy a throi at ddeiet sy’n fwy dibynnol ar blanhigion, ailblannu coedwigoedd a diogelu cynefinoedd.
Mae’r adroddiad wedi ei baratoi gan yr IPCC ar ôl i’r corff rhyngwladol alw am weithredu er mwyn lleihau lefelau allyriadau carbon i sero erbyn 2050.