Disgwylir i dyrfaoedd mawr orymdeithio dros Gymru annibynnol ar hyd strydoedd Caernarfon heddiw (dydd Sadwrn, Gorffennaf 27).

Yn dilyn digwyddiad llwyddiannus Pawb Dan Un Faner Cymru (AUOBCymru) yng Nghaerdydd ym mis Mai, bydd Caernarfon yn cynnal ei ddigwyddiad ei hun “i ddangos bod y momentwm yn cynyddu i bobol Cymru gymryd rheolaeth o’u dyfodol eu hunain”

Mae’r trefnwyr yn disgwyl awyrgylch o garnifal yng nghanol Caernarfon gan ofyn i orymdeithwyr ddod a baneri, drymiau ac offerynnau cerdd gyda nhw.

Bydd pobl yn dechrau ymgynnull o tua 11yb, a bydd yr orymdaith yn dechrau’n brydlon am 1 o Faes Parcio Doc Fictoria.

Yna bydd yn teithio ar hyd stryd Balaclafa, ar hyd Stryd Pedwar a Chwech at Stryd y Plas, o amgylch y castell a gorffen ar y Maes ble bydd rali.

Mae  arolwg diweddaraf YouGov yn rhoi cefnogaeth i annibyniaeth ar 36%, a chefnogaeth i barhau o dan reolaeth gwleidyddion San Steffan yn disgyn o dan 50% am y tro cyntaf ers i bleidleisio ar y pwnc ddechrau.

Mudiad llawr gwlad yw Pawb Dan Un Faner Cymru, sy’n dwyn ysbrydoliaeth gan fudiad All Under One Banner yn yr Alban. Mae’n cael ei gefnogi gan nifer o grwpiau sydd â’r nod o sicrhau annibyniaeth, ac nid yw’n ymochri ag unrhyw blaid wleidyddol nac yn gysylltiedig â nhw.