Mae un o haneswyr y sin roc Gymraeg wedi mynegi cefnogaeth agored i Meic Stevens, wedi’r storm am sylwadau gafodd eu gwneud yn ystod gig gan y ‘Swynwr o Solva’ mewn gwyl yng Nghaernarfon ddechrau’r mis.
Mewn neges i’r byd ar wefan gymdeithasol Facebook, mae Hefin Wyn, awdur llyfrau a chyn-golofnydd ac adolygydd ym mhapur Y Cymro ar y sin roc, fe fydd Tafarn Sinc yn Rosebush yn cynnig croeso i Meic Stevens trwy’r haf – tra bod rhai gwyliau cerddorol wedi canslo gigs.
Roedd dau gerddor – y naill yn gantores ifanc o Gaernarfon, a’r llall yn offerynnwr mwy profiadol – wedi ymateb yn feirniadol i stori yr oedd Meic Stevens wedi’i rhannu yn ystod cyngerdd yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon, yn ystod Gwyl Arall ar ddydd Sul, Gorffennaf 14.
Fe arweiniodd hynny at drafodaeth danllyd ar y cyfryngau cymdeithasol, ynghyd ag eitemau ar raglenni newyddion ar radio a theledu, ynghyd â thrafod ar Radio Cymru. Sesiwn Fawr Dolgellau oedd un o’r gwyliau mawr i ganslo slot oedd wedi ei rhoi i Meic Stevens dros y penwythnos diwethaf.
Penwythnos yn Tafarn Sinc
“Hwyrach nad oes croeso i Meic Stevens mewn rhai mannau wedi iddo gael ei gyhuddo ar gam o wneud sylw hiliol wrth berfformio ond mae llond gwlad o groeso iddo yn Nhafarn Sinc,” meddai Hefin Wyn ar ei dudalen Facebook.
“Galwch heibio,” meddai wedyn, gan ddweud y bydd yn perfformio trwy’r penwythnos a thros yr haf “Ni all neb gymryd ei ganeuon oddi arno.”
Hwyrach nad oes croeso i Meic Stevens mewn rhai mannau wedi iddo gael ei gyhuddo ar gam o wneud sylw hiliol wrth…
Posted by Hefin Wyn on Friday, 26 July 2019
Y cefndir
Mae Meic Stevens wedi gwrthod yr honiad ei fod yn hiliol trwy adrodd am ei brofiad yn mynd â’i wyres i’r ysgol yng Nghaerdydd wrth y gynulleidfa fawr yng Nghaernarfon. Mae ei ymateb i golwg360 yn fan hyn.