Mae un o gymunedau sir Conwy wedi trawsnewid tŷ bach cyhoeddus er mwyn croesawu eisteddfodwyr i’w bro.

Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn Llanrwst rhwng Awst 2 a 10, ac er mwyn nodi hynny mae cymuned Llansannan wedi addurno’r pentref.

Fel rhan o’r addurniadau mae blodau a baneri wedi’u gosod ar hyd y lle, a’r pièce de résistance yw’r arwydd lliwgar wedi’i osod ar eu lle chwech â ‘Maes P’ arno.

Berwyn Evans o Gyngor Cymuned Llansannan wnaeth baentio’r arwydd, ac mae wedi bod yn dweud yr hanes wrth golwg360.

“Mae yna ryw bwyllgor codi arian,” meddai. “Ac mi ddaru awgrymiad ddod i’r Cadeirydd, Alwyn Williams – sy’n byw drws nesa’ i mi – bod isio i ni wneud rhywbeth efo ‘Maes P’ ar y toiledau.

“Wel, roeddwn i’n meddwl bod isio rhywbeth mwy na jest ‘Maes P’. Felly es i ati i gynllunio hwnna ai osod o ddiwrnod o’r blaen!”

Mae llun o’r arwydd bellach wedi’i bostio ar Twitter ac mae’n glir bod Berwyn Evans wrth ei fodd o glywed hynny.

Y toiled

Y gymuned, nid Cyngor Sir Conwy, sy’n gyfrifol am y toiled ac mae Berwyn Evans ymhlith llond llaw o bobol sy’n ei lanhau, ei agor a’i gau i’r cyhoedd.

Y Cyngor Sir oedd yn berchen arno’n wreiddiol ond mi benderfynon nhw ei gau, a bu “tipyn o drafod” wedi hynny am ei dynged, meddai’r cyngor cymuned.

Yn y pendraw cafodd cwmni cymuned ei ffurfio, Menter Bro Aled Cyf., a gwnaethon nhw brynu’r toiled am bunt. Wedi hynny derbyniodd y cwmni £4,000 gan y Cyngor a gwnaethon nhw ei adfer.

Llyfr ymwelwyr

Elfen unigryw arall yw’r ffaith bod gan y lle chwech lyfr ymwelwyr yn nhŷ bach y merched. Yn ôl Berwyn Evans, mae’r llyfr yn dangos eu bod yn denu ymwelwyr o ben draw’r byd.

“Mae gynnon ni visitors book yn un y merched,” meddai, “a fysa chi’n rhyfeddu o le maen nhw’n dod! Daeth un o Australia. Roedd un o Cornwall.

“Maen nhw’n dod o bob man ac yn canmol… Mae’n werth mynd trwyddo fo weithiau!”