Mae Gŵyl Cwrw Llŷn yn dychwelyd i gartref y bragdy yn Nefyn ddydd Sadwrn yma (Gorffennaf 27) ac mae’r trefnwyr yn gobeithio denu mil o bobol yno i yfed a gwrando ar gerddoriaeth.

Roedd tua 800 yno’r llynedd, ac mae disgwyl mwy eleni yn ôl cyfarwyddwr a rheolwr y bragdy, Iwan ap Llyfnwy.

Yn perfformio eleni mae Tegid Rhys, Gwilym Bowen Rhys, Geraint Lövgreen a’r Enw Da, Bwncath a’r Moniars.

“Faswn i’n deud bydd hi’n reit brysur. Mae hi wedi ehangu ac wedi bod yn tyfu bob blwyddyn,” meddai wrth golwg360.

“2013 oedd y cyntaf dw i’n siŵr ac roedden ni’n lwcus fod yna gant yno! Dw i’n siŵr fyddwn ni ar y mil fory ac rydan ni wedi paratoi at hynny.

“Eleni mae’r fformat wedi newid fel bod pedwar bar – dau tu allan, un tu mewn, a bar jin ychwanegol.”

Mae’r ŵyl ar yr un diwrnod â’r Orymdaith Dros Annibyniaeth yng Nghaernarfon, ond mae Iwan ap Llyfnwy wedi clywed bod dipyn yn symud ymlaen lawr arfordir Pen Llŷn i Nefyn ar ôl iddi orffen yn nhre’r Cofis.

“Mae yna fysus wedi trefnu i ddod o Gaernarfon yma – ac o be rydan ni’n clywed mae yna lot wedi plannu’r syniad o ddod yma o’r dref,” meddai.

Y brêns tu ôl i’r bragdy

 Iwan ap Llyfnwy yw’r un sydd yn gwneud llawer o’r cynhwysion ar gyfer y cwrw amrywiol sydd ar gael gan Gwrw Llŷn.

Ar hyn o bryd mae gan y bragdy chwe chwrw ac un pilsner o’r enw Largo. Mae’r Porth Neigwl IPA a’r Seithennyn wedi profi’n rhai poblogaidd iawn, ac mae’r Largo yn tyfu a thyfu.

“Fi sydd wedi gwneud y cynhwysion. Es i ar gwrs bragu yn Sunderland – roedd hwnnw’n bump wythnos o hyd,” meddai Iwan ap Llyfnwy.

“Rydan ni’n ehangu ar yr ochr pilsner ar hyn o bryd. Ti’n sôn am fisoedd o arbrofi, o ymchwil ac o chwarae efo syniadau i gael be ti isio go-iawn.

“Y gwahaniaeth ydi alli di werthu real ales o fewn pythefnos o’u gwneud nhw, ond gyda pilsner a larger mae’n cymryd hyd at bump wythnos – ac mae’n fuddsoddiad mawr.”

Y cwmni yn tyfu

Mae gan y bragdy bump o weithwyr llawn amser a staff rhan amser tymhorol, ac mae tua 100 o gwmnïau a thafarnau yn prynu ganddyn nhw.

“Y casgenni sy’n gwerthu mwyaf ac mae’r rheini yn eithaf lleol – o Lanberis i lawr am Aberdaron,” meddai Iwan ap Llyfnwy.

“Rydan ni’n edrych ymlaen yn arw at fory, mae hi’n addo tywydd da, mae yna lwyth o waith paratoi ond mae hi’n talu’n ôl pan ti’n gweld pobol yn mwynhau!”

Fe fydd bar y bragdy yn agor am hanner dydd fory, gyda’r bandiau yn chwarae o ddau tan saith y nos.