Byddai Mark Harper yn gwrthod gwarantu y gellir cyflwyno Brexit erbyn Hydref 31, wrth iddo lansio ei ymgyrch i fod yn arweinydd nesa’r blaid Dorïaidd.
Mae’n honni bod ganddo “gynllun credadwy, y gellir ei gyflawni” i gael y Deyrnas Unedig allan o’r Undeb Ewropeaidd, yn seiliedig ar “fynd yn ôl i Frwsel i agor trafodaethau gwirioneddol a thryloyw i newid y sefyllfa”.
Ni fydd cyn-brif chwip y blaid Geidwadol yn diystyrru Brexit heb fargen, os nad oes dewis arall, ond “un peth dydw i ddim yn addo, cymaint ag yr hoffwn i, yw y byddwn yn gadael cytundeb neu beidio” pan ddaw hi’n Hydref 31, meddai.
Mae disgwyl i Mark Harper ddweud mai dim ond rhywun nad yw wedi bod yn rhan o’r hyn y mae’n ei alw’n “esiampl waethaf o ddisgyblaeth” yng nghabinet Theresa May, meddai, a all gynnal llywodraeth briodol, weithredol.