Fe fydd etholiad cyffredinol arall yn cael ei gynnal yn Israel ar ôl i’r prif weinidog, Benjamin Netanyahu, fethu yn ei ymdrechion i ffurfio llywodraeth.

Fe bleidleisiodd senedd y wlad neithiwr (nos Fercher, Mai 29) o blaid cynnal etholiad ar Fedi 17 – yr ail eleni.

Mae’r cam diweddaraf yn cael ei ystyried yn ergyd i’r Prif Weinidog a sicrhaodd fuddugoliaeth gyfforddus yn yr etholiad fis diwethaf.

Ond er hynny, mae wedi methu ag adeiladu mwyafrif seneddol oherwydd bod Avigdor Lieberman, arweinydd Yisrael Beiteinu, wedi gwrthod dod i gytundeb ynghylch clymblaid.

Mae Benjamin Netanyahu, sydd wedi arwain Israel ers degawd, hefyd yn wynebu her i’w awdurdod wrth iddo wynebu cyhuddiadau o dwyll.