Rhaid cynnal ail refferendwm ar Brexit gan fod San Steffan “methu penderfynu ar ffordd ymlaen”, yn ôl Aelod Seneddol Ewropeaidd (ASE) Plaid Cymru.

Mae Jill Evans yn synhwyro bod barn y cyhoedd wedi newid ers refferendwm 2016, ac mae’n dadlau bod trafferthion yn Nhŷ’r Cyffredin yn gwneud pleidlais yn anorfod.

“Mae gymaint o ansicrwydd yn y wlad ar hyn o bryd,” meddai wrth golwg360. “Mae gan bobol gymaint o bryder. Mae pobol yn poeni o ddifri am y dyfodol.

“Dyw pobol ifanc ddim yn deall beth rydym wedi gwneud wrth bleidleisio tros adael Ewrop. Ac mae’r polau piniwn yn dangos bod yna wahaniaeth barn yng Nghymru yn awr.

“Y prif reswm yw bod y broses yn San Steffan wedi methu yn llwyr. Mae e wedi torri lawr. A does neb yn gwybod beth sy’n digwydd o un diwrnod i’r llall.

“Felly i fynd yn ôl at ddemocratiaeth rhaid i ni fynd yn ôl at y bobol.”

Newid barn

Er i Gymru pleidleisio tros adael yr Undeb Ewropeaidd tair blynedd yn ôl, mae Jill Evans yn ffyddiog bod y sefyllfa bellach yn wahanol.

“Dw i wedi gweld newid,” meddai. “Dw i wedi gweld hynny trwy’r ohebiaeth dw i’n cael â phobol Cymru. Mae pobol sydd wedi pleidleisio tros adael, sydd yn awr wedi newid eu meddyliau.

“Ac mae yna bobol sydd yn meddwl bod yr holl beth yn rhy gymhleth. Byddai’n well ganddyn nhw adael Brexit, ac aros fel ‘yn ni.”

Canlyniadau

Mae pobol sydd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd eisoes wedi gwrthwynebu canlyniad un refferendwm.

Onid fyddai hynny’n digwydd eto mewn ail refferendwm pe na tasan nhw’n cael y canlyniad y hoffan nhw?

“Os ydy’r bobol yn penderfynu eu bod eisiau gadael o hyd, wel, mae’n rhaid i ni dderbyn hynny,” meddai “… Rhaid gwrando ar beth maen nhw’n dweud, hyd yn oed os ydym yn teimlo’n wahanol.”