Mae gwŷr arfog wedi gorfodi eu ffordd i mewn i adeilad ym mhrifddinas Somalia, wedi i hunanfomiwr ffrwydro car y tu allan.

Mae mudiad eithafol Al Shabab wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad yn Mogadishu.

Mae mwg i’w weld yn codi o’r adeilad ac o’r cerbyd y tu allan, tra bod milwyr byddin Somlia y tu mewn yn ceisio dal yr ymosodwyr a helpu pobol sy’n sownd.

Mae Al Shabab wedi bod yn brwydro ers blynyddoedd i ennill grym a chreu gwladwriaeth Islamaidd yn Somalia. Mae byddin America wedi cynnal nifer o gyrchoedd awyr yn erbyn Al Shabab yn ystod y misoedd diwethaf.