“Dw i’n ddiwedd y bennod gyntaf, ac Aled Roberts yw dechrau’r bennod nesaf,” meddai Meri Huws wrth drafod ei holynydd yn y swydd.

Fe fydd y cyn-Aelod Cynulliad yn dechrau ddydd Llun nesaf (Ebrill 1).

“Mae ganddo fe lawer o brofiad ac felly dw i’n siŵr y daw â’r profiad yna i’r sefydliad.

“Fydden i ddim yn meiddio rhoi cyngor iddo, ond beth fydden i’n dweud wrtho yw i aros yn annibynnol, i fod yn greadigol, ac i fod yn uchelgeisiol.

“Alla’ i ddim edrych i’r dyfodol i weld beth sy’n dod, ond dw i’n credu y bydd cwestiynau mawr yn cael eu codi yn wyneb sefyllfa Brexit. A dw i’n siŵr iawn y bydd Aled yn gallu ymateb i’r heriau hynny pan maen nhw’n dod.”

“Mae rôl y Comisiynydd, yn sicr, o ddatblygu ac esblygu.

“Mae’r potensial o fewn y ddeddfwriaeth sydd gennym ni yn barod yn anhygoel ac mae’r cyfle yno i gamu ymlaen yn ei ffordd ei hun,” meddai Meri Huws wedyn.

“Mi ddaw Aled â’i farn ei hun i’r swydd, ond dw i yn credu bod potensial datblygu’r rôl i’r cam nesaf.”