Mae cyn-Aelod Seneddol Llafur, a oedd yn hen elyn i Gwynfor Evans yn Sir Gaerfyrddin, yn dweud ei fod yn teimlo bod y ddau ohonyn nhw wedi bod yn “garcharorion” i’r drefn wleidyddol.
Fe gipiodd Gwynoro Jones sedd Caerfyrddin yn etholiad cyffredinol 1970, cyn ei dal o drwch blewyn ym mis Chwefror 1974, a hynny o dair pleidlais.
Ond erbyn y mis Hydref canlynol, roedd Gwynfor Evans wedi ailfeddiannu’r sedd gyda mwyafrif o 3,640 pleidlais.
Yn ei lyfr newydd, Gwynoro a Gwynfor, sy’n olrhain hanes y cyfnod cythryblus rhwng 1967 a 1974, mae Gwynoro Jones yn cyfaddef bod yna “gasineb personol” wedi bodoli rhyngddo a Gwynfor Evans.
Ond wrth edrych yn ôl, mae’n teimlo bod yr atgasedd wedi’i yrru, yn bennaf, gan yr elyniaeth fawr rhwng aelodau’r Blaid Lafur a Phlaid Cymru ar y pryd, ac nid ganddyn nhw fel unigolion.
“Atgasedd mawr” y pleidiau
“Yn y saith i’r wyth mlynedd y bu’r ddau ohonom ni’n ymgyrchu yn erbyn ein gilydd ac mewn cyfarfodydd a’n gilydd, roeddwn ni’n anwybyddu ein gilydd yn yr ystafell,” meddai Gwynoro Jones wrth golwg360.
“Sa i’n meddwl inni siarad a’n gilydd am fwy na rhyw ddwy funud erioed. Ond ymhlith cefnogwyr y ddwy blaid yn y pentrefi a gweithwyr y ddwy blaid ac yn y blaen, roedd yna atgasedd mawr.
“Roeddwn i yn garcharor [yn y Blaid Lafur], yn sicr,” meddai wedyn. “Yn garcharor i agwedd y blaid tuag at yr iaith Gymraeg, tuag at ddatganoli a thuag at Gymru ac yn y blaen…
“Dw i’n siŵr roedd Gwynfor yn garcharor o ryw fath hefyd, oherwydd sut i siarad a sut i drafod gyda rhywun o’r Blaid Lafur.
Gwynfor ac ‘annibyniaeth’
Yn ôl y cyn-wleidydd, sydd bellach yn Ddemocrat Rhyddfrydol, mae’n difaru na fyddai wedi cael cyfle i feithrin cyfeillgarwch gyda Gwynfor Evans yn ddiweddarach yn ei oes.
Mae’n honni bod perthynas i Gwynfor Evans wedi dweud wrtho yn ddiweddar nad oedd cyn-Lywydd Plaid Cymru “byth yn siarad am annibyniaeth”.
“Fe ddarllenes i’r cyfrolau mae Gwynfor wedi eu sgrifennu… a doedd Gwynfor byth yn sôn am annibyniaeth,” meddai Gwynoro Jones.
“Mae’n sôn am sofraniaeth, sôn am hunanlywodraeth, sôn am ryddid a sôn am statws dominiw. Wel, dyma’r union bethau yr ydw i’n eu credu ynddyn nhw.
“Beth sy’n flin gen i yn fwy na dim yw bod y ddau o ohonom ni, yn yr wythdegau pan oedd y ddau ohonom ni wedi gorffen gwleidyddiaeth, i raddau, ddim wedi cyfarfod a ddim wedi siarad…
“Does dim dowt gen i o gwbwl y byddai’r ddau ohonom ni dipyn yn agosach i’n gilydd, o ran meddylfryd, yn yr wythdegau nag yr oeddem ni yn y chwedegau ar saithdegau.”