Mae’r digrifwr, Eirwyn Pontsiân yn rhybuddio rhag gwendid Cynulliad i Gymru, yn ei ail gyfrol, Twyll Dyn, a gyhoeddwyd bron i ddeugain mlynedd yn ôl, meddai Lyn Ebenezer.
Yn ei ddarlith yn Neuadd Ffostrasol neithiwr (nos Lun, Mawrth 18) i nodi chwarter canrif ers marw’r digrifwr a’r saer coed o gefn gwlad Ceredigion, mae Lyn Ebenezer yn nodi sut y mae’r gyfrol tafod yn y boch a gyhoeddwyd gan y Lolfa yn 1982, yn dweud llawer gormod o’r gwir.
“Sa i’n dweud na ddylai Eirwyn fod wedi cyhoeddi’r gyfrol honno,” meddai, “ond efallai mai nage 1982 oedd yr amser iawn… oherwydd fe roiodd hi gyfle i nifer fawr o’i elynion – ac roedd gydag e dipyn o’r rheiny, oedd ddim yn gwerthfawrogi ei huodledd e na’r ffordd oedd e’n beirniadu’r sefydliad… i ymosod arno fe.”
Yn ei ddarnau yn cyfeirio at flynyddoedd cyntaf ei fywyd priodasol, yn byw mewn stafelloedd uwchben siop ‘Jones y Ffish’, mae’n cymharu ei sefyllfa ef a’i briod ifanc gyda chynulliad o wleidyddion Cymreig a fyddai’n gwasnaethu yn adeilad y wlad fawr drws nesa’.
Er eu bod yn rhentu’r rŵms ac yn talu eu dyledion yn rheolaidd, mae Jones y Ffish yn gwneud pwynt o ymweld ben bore, i estyn am bethau y mae’n dal i’w cadw mewn droriau o gwmpas y lle. Mae’n galw pan mae’r cwpwl yn ceisio gwylio’r teledu neu wrando ar gerddoriaeth, dim ond iddyn nhw ddeall mai fe sy’n berchen y lle o hyd,
“Mae Pontsiân yn dweud fod cael lle rhent ‘yn well na chael dim’,” meddai Lyn Ebenezer, “ond mae e hefyd yn dweud mai cael eu lle eu hunain fydde fe’n lico”. Oherwydd, ar ddiwedd y dydd, mae byw yn stafelloedd Jones y Ffish yn debyg iawn i dreial gwasanaethu mewn cynulliad sy’n berchen go iawn i fam-yng-nghyfraith o Saesnes o’r wlad fawr drws nesa’.