Mae Lyn Ebenezer yn dweud i grach y sefydliad ddefnyddio Eirwyn Pontsiân er eu dibenion eu hunain – cyn ei ollwng a’i adael pan oedden nhw wedi cael digon arno.
Yn ei ddarlith i nodi chwarter canrif ers marw’r saer coed a’r storïwr o Dalgarreg, Ceredigion, mae’n mynd ymhellach, gan adrodd yr hyn y mae’n honni ddigwyddodd ym mhrifwyl Aberafan 1966 – blwyddyn cyhoeddi hunangofiant alternatif Gwilym Eirwyn Jones, Hyfryd Iawn, gan wasg Y Lolfa.
“Tra mai Eirwyn oedd y brifwyl i lawer,” meddai Lyn Ebemnezer, “wy’n grac gyda’r ffordd y cafodd ei drin gan fawrion y sefydliad, y BBC… fel petai e i fod yno i berfformio iddyn nhw.
“Fe fydden nhw’n galw ar Pontsiân i fynd gyda nhw i’r gwesty (moethus) lle’r oedden nhw’n aros, ac yn rhoi digon iddo i’w yfed ac yn ei gael i berfformio fel rhyw anifail dof…
“Ond wedyn, fe fydden nhw’n ei adael i ffeindio’i ffordd ei hun adre’, ac yntau heb syniad ble’r oedd e.”
Mewn ffilm ar ddiwedd y ddarlith yn Neuadd Ffostrasol neithiwr (nos Lun, Mawrth 18) roedd y diweddar Eirwyn Jones i’w weld yn trafod y cyfle a gafodd gan y Prifardd Rhydwen Williams i berfformio’n fyw ar deledu, cyn bod rhaglenni Cymraeg swyddogol yn bod… a’r hanner cynnig a gafodd hefyd gan gynhyrchydd yng ngogledd Lloegr i roi tro arni yn Saesneg.
Ond dychwelyd i Gymru a wnaeth – i fywoliaeth ansicr y saer coed a’r ymgymerwr – ym mhentref Talgarreg.