Mae Kirsty Williams wedi dweud ei bod hi am barhau i gefnogi Llywodraeth Cymru, yn dilyn penodiad Mark Drakeford yn Brif Weinidog.
Mae cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi bod yn Ysgrifennydd Addysg ers 2016, pan gafodd hi ei gwahodd gan y Prif Weinidog ar y pryd, Carwyn Jones, i ymuno â’r Llywodraeth.
Yn sgil cadarnhau Mark Drakeford yn olynydd i Carwyn Jones yn ystod sesiwn yn y Cynulliad heddiw (dydd Mercher, Rhagfyr 12), mae Kirsty Williams wedi ymrwymo i barhau’n aelod o’r Cabinet.
“Dw i’n falch o’r ffaith fy mod i wedi dod i’r cytundeb hwn gyda’r Prif Weinidog newydd heddiw,” meddai Kirsty Williams.
“Mae’r cytundeb hwn yn sicrhau ein bod ni’n gallu adeiladu ar ein cyraeddiadau dros y ddwy flynedd diwethaf ac i barhau â’n bwriad cenedlaethol i godi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a darparu system addysg sy’n destun balchder cenedlaethol a hyder cyhoeddus.”