Fe fydd enw arweinydd newydd Llafur Cymru – ac felly, Prif Weinidog nesaf Cymru – yn cael ei gyhoeddi heddiw, gyda thri yn y ras i olynu Carwyn Jones.
Bydd y cyhoeddiad yn cael ei wneud yn Stadiwm Principality. Caerdydd am 3 o’r gloch.
Mae’n ras rhwng yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford; yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething; a Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan.
Caeodd y bleidlais ddydd Llun, ac fe fydd Carwyn Jones yn gadael ei swydd ar ôl Sesiwn Holi’r Prif Weinidog ddydd Mawrth nesaf (Rhagfyr 11) ar ôl naw mlynedd.
Mae disgwyl i bwy bynnag sy’n ennill y ras ddod yn Brif Weinidog, ond mae Plaid Cymru eisoes wedi datgan eu bwriad i gyflwyno enw Adam Price, ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn barod i enwebu Paul Davies.
Negeseuon y tri ymgeisydd
Wrth i’r bleidlais gau ddydd Llun, cyhoeddodd y tri ymgeisydd eu negeseuon olaf cyn darganfod pwy yw’r enillydd.
“Rwy’n ddiolchgar dros ben am waith caled y gwirfoddolwyr niferus o bob rhan o Gymru a phob rhan o’r mudiad Llafur a wnaeth i’n hymgyrch ni ddigwydd,” meddai Mark Drakeford. “Fe fu wir yn ymdrech helaeth gan y tîm.”
“Diolch i bawb a gymerodd ran,” oedd neges Vaughan Gething wedyn. “Rwy’n edrych ymlaen at bwy mae aelodau ar draws ein mudiad wedi ei ddewis i fynd â Chymru yn ei blaen. Waeth bynnag am y canlyniad, rwy’n falch iawn o’r ymgyrch wnaethon ni ei rhedeg.”
“Diolch yn fawr i’n holl gefnogwyr hyfryd,” meddai Eluned Morgan. “Rydym mor ddiolchgar am bob un bleidlais. Mae’r ymgyrchoedd wedi arddangos y doniau mawr o fewn ein plaid, y mae angen i ni eu hymgorffori wrth symud ymlaen!”