Mae teulu ifanc o Abertawe wedi cael eu gadael yn ddigartref ar drothwy’r Ŵyl, ar ôl i goeden Nadolig yn eu cartref fynd ar dân.

Roedd y tad, y fam a’u dwy ferch, a oedd yn byw mewn tŷ yn ardal Gellifedw, yn cysgu’n drwm pan ledodd y fflamau trwy eu cartref y penwythnos diwethaf, ar ddiwrnod cyntaf Rhagfyr.

Mae’n debyg bod y fam, Nicola Jayne Jackson, 33, wedi llwyddo i achub ei gŵr, Bradley, 32, a’r plant ar ôl i gi’r teulu ei dihuno am tua 11yh, pan oedd y tân yn lledu trwy lawr isaf y tŷ.

Ers y digwyddiad, sydd wedi gorfodi’r teulu i fyw mewn gwesty Travelodge, mae cymdogion a ffrindiau wedi sefydlu cronfa ar-lein er mwyn eu helpu, gyda dros £1,500 wedi’i gasglu hyd yn hyn.

“Torri fy nghalon”

“Mae fy mhlentyn ifancaf, Eva, yn poeni na fydd Siôn Corn yn gwybod lle rydym ni’n byw, ac mae’n torri fy nghalon,” meddai Nicola Jackson.

“Dw i dal eisiau iddyn nhw gael anrhegion, eu rhoi nhw o dan coeden, a dw i eisiau iddo fod yn hudolus.

“Dydyn ni ddim yn gwario llawer, a dw i ddim yn credu mewn maldodi fy mhlant yn ormod, felly dydyn ni ddim eisiau llawer.

“Dydw i ddim yn gallu dod o hyd i rywle i aros. Dw i’n teimlo ar goll yn eistedd mewn gwesty trwy’r dydd.”