Mae rhai o strydoedd tref Caernarfon wedi’u haddurno gyda bynting coch, gwyn a glas, ynghyd â baneri Jac yr Undeb (ac ambell i Ddraig Goch) tra bod golygfeydd ar gyfer un o ddramâu mwya’ poblogaidd Netflix yn cael eu ffilmio yno.
Mae Stryd y Plas a’r Stryd Fawr, nepell o Gastell Caernarfon, wedi’u trawsnewid wrth i dîm cynhyrchu The Crown – cyfres ddrama wedi’i seilio ar hanes bywyd y Frenhines Elizabeth II – ffilmio golygfeydd o 1969 yn nhre’r Cofis.
Yng Nghastell Caernarfon ar Orffennaf 1 y flwyddyn honno y cafodd Tywysog Charles ei arwisgo yn Dywysog Cymru – gyda phobol y dref wedi’u rhannu i lawr y canol, yn Frenhinwyr ac yn weriniaethwyr.
Mae perchnogion siopau lleol wedi cael cynnig cadw’r baneri wedi i’r ffilmio ddod i ben.