Y bobol gyffredin, ac nid gwleidyddion, ddylai gael y gair olaf ynghylch telerau Brexit, yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

Mae’r blaid yn dadlau na fydd yr un cytundeb ymadael gystal â’r cytundeb sydd gan Brydain fel aelod o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae Cabinet Llywodraeth Prydain yn parhau i drafod cynlluniau Prif Weinidog Prydain, Theresa May.

“Rydym yn gwybod ychydig iawn am Gytundeb Brexit Theresa May; ond beth bynnag yw’r cytundeb, rydym yn gwybod na fydd e gystal i Gymru â’n perthynas bresennol â’r Undeb Ewropeaidd,” meddai arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds.

“Byddai y tu hwnt i amgyffred y gallai ASau wybod eu bod yn pleidleisio i wneud Cymru a’u hetholwyr yn waeth eu byd. Rwy’n annog pob AS yng Nghymru i bleidleisio yn erbyn y cytundeb hwn.

“Yn y pen draw, y bobol, ac nid gwleidyddion, ddylai benderfynu ar Brexit. Yr unig ddatrysiad all lwyddo o ran Brexit yw rhoi’r gair olaf i’r bobol, a’r cyfle i ddewis Ymadael â Brexit.

“Ni yw’r unig blaid yng Nghymru sydd wedi treulio’r ddwy flynedd diwethaf yn brwydro i roi’r gair olaf ar y cytundeb i’r bobol. Rydym yn nes nag erioed at gyflawni ein nod, ond mae angen cymorth pob unigolyn arnom sy’n meddwl yn yr un modd er mwyn llwyddo.”