Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am sefydlu swydd Comisiynydd y Lluoedd Arfog i Gymru, wrth groesawu strategaeth sydd wedi’i chyflwyno ledled gwledydd Prydain.
Mae’r strategaeth yn ymrwymo pob rhan o wledydd Prydain i wireddu’r weledigaeth o ofalu am les cyn-filwyr drwy gydweithio rhwng y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r sector elusennau.
Ond megis dechrau mae’r gwaith o ad-dalu’r ddyled i gyn-filwyr, yn ôl llefarydd cymunedau’r Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Mae sefydlu rôl Comisiynydd i warchod lles y lluoedd arfog yn bolisi gan y Ceidwadwyr Cymreig, ond pleidleisiodd Llywodraeth Cymru yn erbyn sefydlu’r rôl yr wythnos ddiwethaf.
Croesawu strategaeth Brydeinig
“Yn dilyn wythnos o gofio, mae’r strategaeth hon ledled y Deyrnas Unedig yn amserol ac yn un i’w chroesawu,” meddai Mark Isherwood.
“Mae’r strategaeth yn adeiladu ar egwyddor craidd Cyfamod y Lluoedd Arfog na ddylai unrhyw un fod o dan anfantais yn sgil gwasanaethu, ac rydym yn croesawu ei galwad am fwy o gydweithio a gweithio mewn partneriaeth.
“Fodd bynnag, mae’r strategaeth yn cydnabod fod pob gwlad yn y DU yn wahanol, ac y bydd ei chyflwyno’n edrych yn wahanol ym mhob rhan o’r wlad, ond mae amrywiadau ar gadw at y Cyfamod yn amrywio ar draws rhannau o Gymru.
“Mae angen i ni sicrhau cysondeb yn ein cefnogaeth, a Chomisiynydd y Lluoedd Arfog fyddai’r ffordd orau o gyflawni hynny.”