Mae byddin Camerŵn wedi lladd o leiaf 30 o bobol fu’n brwydro am annibyniaeth oddi wrth y wlad.
Roedden nhw wedi bod yn ceisio sefydlu gwlad newydd yng ngogledd-orllewin Camerŵn o’r enw Ambazonia.
Mae disgwyl i’r brwydro barhau ac i nifer y meirw godi eto, er nad yw’r un aelod o’r lluoedd arfog wedi marw hyd yn hyn.
Mae nifer o wystlon wedi’u rhyddhau, ac mae dros 100 o bobol wedi llwyddo i ffoi i’r brifddinas, Yaounde.
Cefndir
Mae gwrthdaro cyson rhwng athrawon a chyfreithwyr Saesneg eu hiaith ar y naill law, a mwyafrif o siaradwyr Ffrangeg ar y llaw arall.
Mae’r rhai sy’n siarad Saesneg yn honni iddyn nhw gael eu gwthio o’r neilltu gan y rhai sy’n siarad Ffrangeg.
Mae’r anghydfod wedi arwain at alwadau gan y rhai Saesneg eu hiaith i sefydlu’r wlad newydd.