Mae’r Aelod Cynulliad Llafur, Jenny Rathbone wedi cael ei beirniadu a’i chyhuddo o “geisio cyfiawnhau” gwrth-Semitiaeth.

Mewn recordiad, mae’r Aelod Cynulliad tros Ganol Caerdydd yn dweud bod ymddygiad Israel “yn gyrru pobol i fod yn wrthwynebus tuag at y gymuned Iddewig”, gan fynd mor bell ag awgrymu bod troseddau gwrth-Semitaidd “ym mhennau” yr Iddewon yn unig.

Roedd ei sylwadau’n rhai “ffwrdd-â-hi” ac “anwybodus”, yn ôl yr Aelod Cynulliad Ceidwadol Mohammad Asghar.

Gwrth-Semitiaeth ar gynnydd

Mae gwrth-Semitiaeth ar gynnydd drwy wledydd Prydain, yn ôl yr Ymddiriedolaeth Diogelwch Cymunedol, sy’n cydweithio â chymunedau ffydd a heddluoedd.

Roedd 727 o droseddau gwrth-Semitaidd wedi’u cofnodi yng ngwledydd Prydain yn ystod hanner cynta’r flwyddyn eleni – yr ail ffigwr mwyaf ers dau ddegawd.

“Mae’r sylwadau hyn yn rhai ffwrdd-â-hi ac anwybodus ynghylch gwrth-Semitiaeth yn y DU, ac yn diystyru’n llwyr y bygythiad y mae’r gymuned Iddewig wedi’i wynebu,” meddai Mohammad Asghar.

“Yn hytrach na sgubo troseddau casineb o dan y carped, dylem oll fod yn gweithio’n frwd i frwydro yn ei erbyn – yn enwedig y rheiny ohonom mewn swyddi cyhoeddus.

“Mae’n ymddangos bod y don ofidus o wrth-Semitiaeth wedi dod i Gymru ac nad problem Jeremy Corbyn yn unig yw hi – ond [yn broblem] Carwyn Jones a’i olynydd hefyd.”