Fe fydd Plaid Cymru yn cyhoeddi yn ddiweddarach bore ma canlyniadau’r bleidlais yn sgil yr her i arweinyddiaeth Leanne Wood.
Yr Aelodau Cynulliad Plaid Cymru, Adam Price, a Rhun ap Iorwerth, sydd wedi herio Leanne Wood am arweinyddiaeth y blaid, a bydd enillydd yr ornest yn cael ei gyhoeddi am 11yb bore ma (Dydd Gwener, Medi 28).
Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae’r tri wedi bod yn amlinellu eu gweledigaeth ar gyfer y blaid.
Mae Leanne Wood wedi dadlau bod angen dau dymor ar lywodraeth Plaid Cymru yn y Cynulliad cyn gallu ymgyrchu go iawn am annibyniaeth.
Wrth ddadlau ei achos yntau dros annibyniaeth, dywedodd Rhun ap Iorwerth mai’r “unig ffordd y gallwn ni gyrraedd ein potensial yw drwy ddod yn wlad annibynnol”.
Mae hynny, meddai, yn golygu dod yn wlad sofran “fel unrhyw wlad normal arall yn y byd”.
Ac wrth amlinellu ei weledigaeth ar gyfer annibyniaeth dywedodd Adam Price mai fe yw’r “unig ymgeisydd sydd wedi amlinellu’r saith cam at annibyniaeth”, a’r unig ymgeisydd sydd wedi dangos sut i “wthio’r pwerau sydd gennym i’r eithaf”.