Mae awdures ac ymgyrchydd iaith yn bwriadu defnyddio matsys i gynnal cwrs ar hanes Cymru.
Bydd cwrs i ddysgwyr yn cael ei gynnal yng nghanolfan iaith Nant Gwrtheyrn yr wythnos nesaf o’r enw ‘Degawdau’r Chwyldro’.
Bydd y cwrs yn olrhain digwyddiadau arwyddocaol ym Mrwydr yr Iaith dros y ganrif ddiwethaf, o Benyberth yn yr 1930au i Dynged yr Iaith, Pont Trefechan a’r Arwisgo yn yr 1960au.
Beth am gynnau tân?
Yn ôl Angharad Tomos, fe fydd hi’n cychwyn y cwrs, yn llythrennol, drwy danio matsien, cyn mynd ymlaen i wneud defnydd helaeth o ganeuon protest i bortreadu hanes.
“Mi fydda i’n deud y gwahaniaeth rhwng tanio matsien a chynnau tân – jyst ‘light a fire’ maen nhw’n ei ddeud yn Saesneg,” meddai’r awdures wrth golwg360.
“Dw i’n meddwl bod hynna’n ffordd ddiddorol o gyflwyno’r gân ‘Tân yn Llŷn’ ac mae yna lot o ganeuon yn ystod y cwrs – llawer un ohonyn nhw’n rhai Dafydd Iwan – ac mae’r eirfa yn y caneuon yma bron iawn yn gwrs ynddo’i hun.”
Teithio trwy hanes
Bydd hefyd gyfle yn ystod y cwrs i fynd i weld Penyberth ei hun, meddai Angharad Tomos, yn ogystal â thaith i Lys Ynadon Caernarfon er mwyn gweld achos llys go iawn pan fydd aelod o Gymdeithas yr Iaith yn sefyll ei brawf am wrthod talu ei drwydded deledu.
“Rhag ofn iddyn nhw feddwl mai rhywbeth yn y gorffennol [yw brwydr yr iaith], fe fedrwn nhw weld achos llys cyfoes,” meddai.
Bydd cyfle hefyd i brynu llyfrau ym Mhalas Print yn nhref Caernarfon a gweld y castell lle cafodd y Tywysog Charles ei arwisgo yn 1969.
Mae’r cwrs yn cael ei gynnal yr wythnos nesaf rhwng Hydref 1 a 5.