Mae’r cyfnod enwebu ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru, bellach wedi dechrau.

Rhoddodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, hysbysiad ffurfiol o’i fwriad i ildio’r awenau, ac mae’r ras am ei olynydd nawr wedi dechrau’n swyddogol.  

Agorodd y cyfnod enwebu am hanner dydd heddiw Iau (Medi 27), ac mi fydd yn para tan 12 yr hwyr Hydref 3.

Bydd Aelodau Cynulliad yn bwrw ati yn awr i ddatgan eu henwebiadau yn ffurfiol.

Mae angen cefnogaeth pum Aelod Cynulliad arall er mwyn sefyll yn ymgeisydd, ac mae’r mwyafrif wedi datgan eu cefnogaeth i Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid.

Mae Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd, wedi sicrhau cefnogaeth pump o’i gyd-aelodau, ac mae Gweinidog y Gymraeg, Y Farwnes Eluned Morgan hefyd yn y ras.

Bydd modd i’r cyhoedd bleidleisio o Dachwedd 9 ymlaen, gyda’r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar Ragfyr 6. Mae disgwyl i Carwyn Jones gamu o’r neilltu ar Ragfyr 11.