Mae cwmni Heinz wedi ildio i “ewyllys y bobol” a phenderfynu peidio newid enw eu ‘Salad Cream’ i ‘Sandwich Cream’.
Ym mis Mehefin, cyhoeddodd y cwmni eu bod yn bwriadu newid yr enw gan mai dim ond 14% o’u cwsmeriaid sy’n rhoi’r saws ar saladau.
Er hynny, mae’n debyg bod 87% am gadw’r enw, ac yn sgil ymateb chwyrn gan y cyhoedd mae Heinz wedi gwneud tro pedol.
“Yma i aros”
“Mae’n ymddangos bod pobol yn hoff o enw ein saws, yn ogystal â’i flas eiconig,” meddai uwch-reolwr brand Heinz, Joel Hughes.
“Gwnaeth miloedd ohonoch rannu eich barn a chynnig eich barn, a daeth hi’n amlwg bod cyhoedd
Prydain eisiau cadw Heinz Sandwich Cream – dyw unrhyw enw arall ddim yn ddigon da.
“Dydyn ni methu anwybyddu ewyllys y bobol. Felly, mae Heinz Sandwich Cream yma i aros.”
Saws
Cafodd Salad Cream ei lansio yn 1914, a hwnnw oedd y pumed saws mwyaf poblogaidd yn y Deyrnas Unedig y llynedd.
Er i werth £28.8 miliwn o’r saws gael ei werthu yn 2017, roedd hynny’n gwymp o 5.4% o gymharu â 2016.