Mae elusen yn galw am ragor o wybodaeth gan heddluoedd Cymru ynglŷn a’r ffordd y maen nhw’n gwneud penderfyniadau i amddiffyn unigolion maen nhw’n amau sy’n dioddef trais yn y cartref.

Daw hyn wrth i ffigyrau gan y BBC ddangos bod heddluoedd Cymru wedi gorfod delio â thros 30,000 o achosion posib o drais ddomestig ers 2014 lle cafodd rhywun ei arestio ond ddim eu cyhuddo.

Ond o’r ffigwr hwn, dim ond 970 o weithiau – sef 3% – y cafodd cais ei gyflwyno am orchymyn gwarchodaeth brys (Domestic Violence Protection Order/DVPO).

Pryderon

Ers 2014, mae gan heddluoedd yng Nghymru a Lloegr yr hawl i gyflwyno cais i ynadon am DVPO, sy’n atal rhywun sydd heb ei gyhuddo o drosedd rhag mynd i’r cartref teuluol am gyfnod o hyd at 28 diwrnod.

Dywed yr elusen, Cymorth i Ferched Cymru, fod y gorchymyn hwn yn cynnig diogelwch am gyfnod i ddioddefwyr, a hynny pan fo’r unigolion sy’n cael eu hamau o droseddu naill ai heb gael ei arestio neu’n rhan o ymchwiliad.

Ond mae’r elusen yn mynnu bod yna “amrywiaeth sylweddol” yn y ffordd mae heddluoedd Cymru’n gwneud cais am y gorchmynion hyn.

Maen nhw’n dweud bod dioddefwyr yn aml yn teimlo bod yr heddlu yn “oedi” pan fo rheolau’r gorchmynion yn cael eu torri, ac nad ydyn nhw’n eu cymryd “o ddifri”.

Angen mwy o wybodaeth

“Fe hoffem weld mwy o wybodaeth gan heddluoedd Cymru ynglŷn â sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud, pa un ai a ydyn nhw’n cael eu defnyddio i osgoi cyhuddo troseddwyr neu i amddiffyn dioddefwyr tra bo’r ymchwiliad yn parhau,” meddai Cymorth i Ferched Cymru.

“Mae hefyd angen gwybod a yw’r gorchmynion yn cael effaith bositif ar ddioddefwyr, wrth graffu ar y rheiny sy’n cyflawni trais ac wrth atal achosion pellach.

“Mae’n hanfodol bod pob llu heddlu yng Nghymru yn cael hyfforddiant effeithlon er mwyn adnabod ac ymchwilio i bob achos o drais yn y cartref, gan gynnwys ymddygiad o drais y meddwl sydd wrth galon nifer o brofiadau dioddefwyr.”