Mae rhai pobol yng Nghymru yn gorfod teithio bron i 100 milltir i weld deintydd, yn ôl
ystadegau newydd.
Yn ôl ffigurau’r Cymdeithas Ddeintyddol Prydain (BDA), mae rhai pobol yn Aberystwyth yn gorfod
teithio 90 milltir – cyfanswm y daith yn ôl ac ymlaen – er mwyn gweld deintydd.
Yn y Drenewydd mae’r daith yn 80 milltir i rai, a hyd yn oed yng Nghaerdydd mae rhai yn gorfod
teithio 30 milltir i gael apwyntiad.
Mae’r BDA yn beio toriad £20 miliwn yng nghyllid gwasanaethau deintyddol y Gwasanaeth Iechyd
am y “loteri côd post” hon.
A byddan nhw’n trafod y sefyllfa gerbron Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad heddiw dydd Iau (Medi 27).
“Gwarth”
“Mae Llywodraeth Cymru yn sôn am rwystrad, anghydraddoldeb a chynaladwyedd,” meddai
Cadeirydd un o bwyllgorau Cymreig y BDA, Tom Bysouth.
“Ond dyw geiriau ddim yn ddigon. Rhaid gweithredu, os ydym am sicrhau dyfodol y gwasanaeth, ac
os ydym am roi diwedd ar loteri côd post tros ofal.
“Mae’r ffaith bod gwerth £20 miliwn o gyllid wedi’i dorri yn warth. Yn anffodus dyma beth sy’n
digwydd o fewn system sydd wedi methu.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.