Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am beidio â dileu’r cymhwyster ‘Cymraeg ail iaith’ er i adroddiad argymell iddyn nhw wneud hynny bum mlynedd yn ôl.

Cyhoeddwyd yr adroddiad ym Medi 2013, a galwodd am “ddisodli” Cymraeg ail iaith “dros gyfnod o dair i bum mlynedd”.

Erbyn hyn mae’r cyfnod hwnnw wedi dirwyn i ben, ond, er gwaetha’ hynny, mae’r cymhwyster yn parhau’n rhan o raglen astudio’r Gymraeg.

Bellach, mae ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu Llywodraeth Cymru o “ohirio’r mater”, ac wedi cyhoeddi cyfres o argymhellion.

“Rydyn ni wedi gorfod gwneud y gwaith hwn yn wirfoddol oherwydd methiant y Llywodraeth i weithredu adroddiad wnaethon nhw gomisiynu eu hunain,” meddai Toni Schiavone o’r grŵp.  

“Rydyn ni’n awyddus i dderbyn adborth ar y cynigion sydd wedi eu llunio gan grŵp o arbenigwyr.”

Cymhwyster

Cred Cymdeithas yr Iaith y dylai’r Llywodraeth gyhoeddi ‘fersiwn drafft’ eleni o “gymhwyster Cymraeg cyfunol newydd” .

Yna, byddai siroedd ac ysgolion yn medru ei dreialu am gyfnod, cyn i’r cymhwyster gael ei gyflwyno i weddill y wlad yn raddol.   

Dyma’r argymhellion:

Argymhellion

  • Disodli’r cymwysterau presennol gydag un continwwm wedi ei seilio ar fodel Cymraeg i Oedolion
  • Creu cymhwyster ac asesiad cyffredin ar gyfer pob disgybl, sy’n ffocysu’n bennaf ar sgiliau llafaredd  
  • Asesiadau llafar cyffredin ar gyfer pob disgybl 14 ac 16 oed, gan ymestyn y disgyblion gorau drwy bapurau llenyddol estynedig

Ymateb y Llywodraeth

“Mae gwaith yn mynd rhagddo i wella’r ffordd y mae’r Gymraeg yn cael ei dysgu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Fel pob pwnc yn y cwricwlwm fe’i datblygir gan athrawon gyda mewnbwn gan arbenigwyr ieithyddol.  Ni fydd y term Cymraeg fel Ail Iaith yn ymddangos yn y cwricwlwm newydd.

“Rydym yn gweithio’n agos gyda Chymwysterau Cymru i ddatblygu cymwysterau newydd a fydd yn adlewyrchu’r dulliau sy’n cael eu hyrwyddo gan y cwricwlwm newydd, gan gydnabod bod angen amser ar ysgolion a dysgwyr i addasu i ffyrdd newydd o ddysgu ac addysgu cyn i’r cymwysterau presennol ddod i ben.”