Ni fydd rhaid i feithrinfeydd dydd dalu trethi busnes am gyfnod o dair blynedd o fis Ebrill 2019 ymlaen.
Daw’r cyhoeddiad yn dilyn ymgyrch gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant yn cael ei ddarparu am ddim i rieni sy’n gweithio, a hynny am 48 wythnos y flwyddyn.
Mae Llywodraeth Cymru’n amcangyfrif y bydd rhyddhau meithrinfeydd rhag talu trethi busnes yn sicrhau bod cymorth gwerth £7.5m ar gael i ddarparwyr gofal plant dros gyfnod o dair blynedd.
Yn ôl yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, bydd y cynllun yn “helpu i greu swyddi gofal plant newydd ac yn helpu i greu darpariaeth gofal plant o’r newydd a chynnal darpariaeth sydd eisoes ar gael ledled Cymru.”
“Am wneud mwy eto”
Er bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi cynyddu’r rhyddhad ardrethi i ddarparwyr gofal plant cofrestredig yng Nghymru yn gynharach eleni, maen nhw “am wneud mwy” i sicrhau bod busnesau’n elwa, medden nhw.
“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn golygu y bydd y sector gofal plant yng Nghymru yn cael ei ryddhau rhag talu ardrethi o fis Ebrill 2019 ymlaen,” meddai Mark Drakeford.
“Bydd hyn yn helpu darparwyr gofal plant i sefydlu eu hunain yn fwy cadarn gan helpu’r sector i ffynnu a thyfu.”
“Ymrwymiad” i ofal plant
Dywed y Gweinidog dros Blant, Huw Irranca-Davies, fod y cyhoeddiad hwn yn dangos “ymrwymiad” Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r sector gofal plant yng Nghymru.
Nod Llywodraeth Cymru dros y ddeng mlynedd nesaf yw proffesiynoli’r sector a sicrhau twf economaidd trwy gefnogi rhieni a gofalwyr i ddod o hyd i waith ac i gadw eu swyddi.
“Drwy wella’r cymorth sydd ar gael i’r sector gofal plant, byddwn yn ei gwneud hi’n haws eto i ddod o hyd i ddarpariaeth gofal plant gan gefnogi teuluoedd sy’n gweithio yng Nghymru, a’i gwneud yn haws i bobol ddod o hyd i swyddi a’u cadw,” meddai Huw Irranca-Davies.