Mae’r Blaid Lafur wedi penderfynu mabwysiadu diffiniad Cynghrair Genedlaethol Coffáu’r Holocost o wrth-Semitiaeth, ond wedi cael eu beirniadu am roi ystyriaeth o hyd i Israel.
Wrth fabwysiadu’r diffiniad yn llawn, pwysleisiodd y Blaid Lafur nad oedden nhw am gyfyngu ar hawl yr unigolyn i fynegi barn am sefyllfa Israel a Phalesteina.
Mae’r arweinydd Jeremy Corbyn wedi cael ei feirniadu ar ôl galw am sicrwydd na fyddai’n wrth-Semitaidd i ddisgrifio Israel fel gwlad hiliol.
Ond mae gwrthwynebwyr yn dweud y byddai helynt pe bai’r alwad honno wedi cael ei chymeradwyo.
Mae’r helynt, yn ôl Cyfeillion Israel Llafur, yn dangos bod Jeremy Corbyn yn “rhan o’r broblem”.
‘Lle diogel i wrth-Semitiaid’
Dywed ymgyrchwyr o hyd fod Llafur yn “benderfynol o gynnig lle diogel i wrth-Semitiaid”, a bod y diffiniad newydd yn esgusodi pobol hiliol.
Yn ôl y cyfarwyddwr Jennifer Gerber, “Mae’n warthus fod y Blaid Lafur unwaith eto wedi anwybyddu’r gymuned Iddewig: a’i bod yn derbyn diffiniad llawn Cynghrair Genedlaethol Coffáu’r Holocost heb ychwanegiadau, hepgoriadau neu rybuddion.”
Ychwanegodd fod ychwanegu cymal am ryddid i leisio barn ar y mater “yn ddiangen ac yn tanseilio’n llwyr yr enghreifftiau eraill y mae’r blaid i fod wedi’u mabwysiad”.
Mae Llafur yn Erbyn Gwrth-Semitiaeth yn dweud bod y diffiniad yn “gwarchod rhyddid pobol hiliol i gyflwyno safbwyntiau ffiaidd”.
Dywedodd prif weithredwr y Cyngor Arweinwyr Iddewig, Simon Johnson na fyddai’r diffiniad yn “gwneud unrhyw beth i atal gwrth-Semitiaeth o fewn y blaid”.
Trafod
Bydd aelodau seneddol ac Arglwyddi Llafur yn trafod y penderfyniad pan fyddan nhw’n cyfarfod am y tro cyntaf ers yr haf.
Mae’r Fonesig Margaret Hodge wedi cyhuddo Jeremy Corbyn o “gymryd dau gam ymlaen ac un cam yn ôl tros y mater”.
Ond mae gweinidog yr wrthblaid ac aelod o bwyllgor gwaith Llafur, Rebecca Long-Bailey yn mynnu nad oedd y blaid yn ceisio “gwanhau” y diffiniad.