Mae arlywydd yr Unol Daleithiau wedi gwadu honiadau newydd am ei berthynas ag actores ffilmiau pornograffig, wrth i ragor o wybodaeth ddod i’r fei.

Ddydd Mercher (Mai 2) dywedodd un o gynorthwywyr Donald Trump, fod y gwleidydd wedi talu £95,000 i’w gyfreithiwr, Michael Cohen, a’i fod wedi gwneud hynny ar ôl i’r cyfreithiwr dalu’r un swm i’r actores, Stormy Daniels, rai dyddiau cyn etholiad arlywyddol 2016.

Mae Stormy Daniels yn honni iddi gael rhyw â Donald Trump yn y flwyddyn 2006, ac mae wedi cyflwyno her gyfreithiol yn gysylltiedig â’r mater.

Mae’r arlywydd eisoes wedi gwadu’r honiad, a bellach mae wedi dweud nad oes “dim cysylltiad” rhwng y taliad â’r ymgyrch [arlywyddol].