Mae swyddogion milwrol o wledydd Prydain yn archwilio glannau afon yng ngorllewin yr Almaen mewn cysylltiad â merch i filwr a aeth ar goll yn 1981.

Fe ddiflannodd Katrice Lee pan oedd yn dathlu ei phen-blwydd yn ddau oed tra oedd yn siopa gyda’i mam ar gyrion dinas Paderborn – nid nepell o ble roedd ei thad yn gweithio mewn gwersyll filwrol.

Yn dilyn ailagor yr achos yn ddiweddar, ynghyd â sylw ar y cyfryngau yng ngweledydd Prydain a’r Almaen, mae’r awdurdodau milwrol Prydeinig yn yr Almaen wedi cadarnhau eu bod nhw’n archwilio glannau afon Alme.

Daw hyn yn sgil y dystiolaeth bod dyn wedi cael ei weld ar y pryd gyda merch ifanc.

Roedd y ddau wedi’u gweld yn camu i mewn i gar gwyrdd, ac fe gafodd y car hwnnw ei weld wedyn ger pont dros afon Alme y diwrnod canlynol.