Mae Aelod Cynulliad UKIP, Michelle Brown wedi’i gwahardd o’r Cynulliad am wythnos am wneud sylwadau hiliol am Aelod Seneddol Llafur, Chuka Umunna.
Fe alwodd Aelod Cynulliad Gogledd Cymru y gwleidydd Llafur yn “gneuen goco” mewn sgwrs ffôn breifat gydag un o’i hymgynghorwyr, ond mae hi wedi cael ei chosbi am ddwyn anfri ar y Cynulliad.
Mae’r term sarhaus yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio ‘rhywun sydd â chroen tywyll ond sy’n meddwl fel person â chroen gwyn’. Ond roedd Michelle Brown hefyd wedi rhegi wrth ddefnyddio’r term.
Roedd hi wedi ymddiheuro, ond collodd hi apêl yn erbyn ei chosbi yn dilyn cwyn yn ei herbyn. Roedd hi’n dadlau nad oedd hi wedi torri’r cod ymddygiad. Roedd arweinydd UKIP yng Nghymru, Neil Hamilton wedi ei hamddiffyn, gan gyhuddo Aelodau’r Cynulliad o ymyrryd ym mywydau preifat unigolion.
Ond daeth ymchwiliad i’r casgliad nad oedd y sgwrs o natur breifat am eu bod yn trafod gwaith.
Pleidleisiodd 38 o Aelodau’r Cynulliad o blaid ei gwahardd, tra mai dim ond tri oedd yn ei chefnogi. Roedd y llall wedi ymatal o’r bleidlais.
Bydd Michelle Brown yn cael dychwelyd i’r Cynulliad ddydd Iau nesaf.