Mae Ysgrifennydd Cartref newydd San Steffan, Sajid Javid wedi beio’r Blaid Lafur o dan arweiniad Jeremy Corbyn am iddo ddioddef hiliaeth.
Dywed fod “awyrgylch gelyniaethus” o fewn y Blaid Lafur wedi arwain at y ffaith iddo gael ei alw’n “gneuen goco” – cyfeiriad at liw ei groen, er ei fod ef, meddai, yn teimlo’n “wyn” ar y tu fewn.
Mae wedi galw ar i Jeremy Corbyn feirniadu sylwadau hiliol aelodau ei blaid.
Atebodd Diane Abbott, arweinydd yr wrthblaid yn y ddadl yn San Steffan heddiw, fod y blaid “yn ddi-eithriad yn condemnio’r enwau” a gafodd eu defnyddio wrth gyfeirio ato.
Windrush
Daeth y sylwadau am Sajid Javid yn dilyn helynt Windrush, polisi dadleuol Llywodraeth Prydain i fynd i’r afael â mewnfudwyr anghyfreithlon o’r Caribî a ddaeth i wledydd Prydain ddegawdau’n ôl heb ddogfennaeth briodol.
Wrth ymateb i gwestiwn am y sylwadau, dywedodd Sajid Javid: “Pan fo pobol yn sôn am awyrgylch gelyniaethus, yr hyn y mae [Simon Hoare] ohono yw rhai o’r asgell chwith galed sydd wedi ymuno [â’r Blaid Lafur] fyth ers i [Jeremy Corbyn] ddod yn arweinydd, a sut mae’r gwrth-semitiaeth hwnnw wedi cael ei oddef.
“Ro’n i’n siarad am aelodau’r asgell chwith galed sydd wedi creu awyrgylch gelyniaethus o fewn eu plaid eu hunain a phobol sy’n croesawu fy mhenodiad drwy fy ngalw i’n ‘gneuen goco’ ac yn ‘Yncl Tom’.
“Os yw [Jeremy Corbyn] yn credu bod hynny’n anghywir, pam na ddaw i’r blwch llefaru ar unwaith a’u beirniadu nhw?”
Ymateb Llafur
Wnaeth Jeremy Corbyn ddim ymateb, gan arwain Sajid Javid i ychwanegu: “Do’n i ddim yn meddwl y byddai am ddweud unrhyw bet… rydyn ni’n gwybod yn iawn beth mae’n ei feddwl o’r awyrgylch gelyniaethus yn y Blaid Lafur yn erbyn pobol…
Ond ychwanegodd Diane Abbott: “Rwy’ i wedi bod ar-lein yn condemnio’r hiliaeth… Rwy’n gwybod beth yw hiliaeth.”
Diolchodd Sajid Javid iddi am ei hymateb, gan ychwanegu ei bod yn ddyletswydd ar arweinwyr gwleidyddol i’w atal.