Mae disgwyl i bennaeth cwmni Hitachi, Hiroaki Nakanishi gyfarfod â Phrif Weinidog Prydain, Theresa May fory (dydd Iau, Mai 3) i sicrhau buddsoddiad ar gyfer Wylfa Newydd.

Mae pryderon y gallai’r cwmni dynnu’n ôl yn sgil ansicrwydd tros ddyfodol y cytundeb.

Mae lle i gredu bod y cwmni eisiau lleihau ei gyfrannau i lai na 50% yn y prosiect, a cheisio sicrwydd ariannol gan lywodraethau Prydain a Siapan ar gyfer y gweddill.

Hyd yma, fe fu Llywodraeth Prydain yn gyndyn o gynnig cymorth ariannol, ac mae’r trafodaethau’n rhygnu ymlaen.

Mae Hitachi eisoes wedi gwario £2 biliwn ar ddatblygu’r safle ers ei brynu yn 2012, ond maen nhw’n bygwth tynnu’n ôl oni bai bod sicrwydd o gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Prydain.

Mae disgwyl i’r safle agor ganol y 2020au, a hwn fyddai’r ail safle mwyaf yng ngwledydd Prydain y tu ôl i Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf.

“Risg anferthol”

Mae Cyfeillion y Ddaear Siapan a’r mudiad gwrth-niwclear PAWB (Pobol Atal Wylfa B), wedi cyhoeddi datganiad brys yn ymateb i’r cyhoeddiad am y cyfarfod.

“Mae’r ymdrech hon yn tanlinellu’n union pa mor anferthol yw risg y prosiect niwclear. Peidiwch a thywallt arian da i bwll diwaelod ynni niwclear,” meddai Dylan Morgan o PAWB.  “Dyma dechnoleg hen ffasiwn, budr, peryglus a rhaid talu crocbris amdani.

“Mae’r tair ffrwydriad a thoddiadau yng nghalon adweithyddion Fukushima wedi, ac mi fyddant, yn costio’n ddrud i bobl Siapan.  Does dim golwg o bendraw i’r drasiedi barhaol hon, sy’n golygu na chaiff adweithyddion niwclear newydd mo’u hadeiladu yn Siapan.

“Mae’n annerbyniol fod Siapan yn dymuno allforio’r dechnoleg farwol yma i wladwriaeth arall er mwyn cadw Siapan yn y clwb niwclear.”