Mae angen i Lywodraeth Cymru gymryd bygythiad Brexit tuag at frand bwyd Cymru “o ddifri”, meddai Plaid Cymru.
Mae’r ysgrifennydd cysgodol dros Faterion Gwledig, Simon Thomas, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod brand bwyd Cymru yn cael ei ddiogelu yn y blynyddoedd yn dilyn Brexit.
Dim ond y mis diwethaf y cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd ei fod yn rhoi statws bwyd gwarchodedig i Gaws Caerffili, sy’n golygu bod 15 o fwydydd a diodydd o Gymru bellach yn cael eu diogelu gan y Comisiwn.
Angen dod â gwobrau bwyd yn ôl
Mae Simon Thomas yn dweud bod pob ceiniog sy’n cael ei gwario ar gynnyrch o Gymru “o fantais” i ffermwyr a chynhyrchwyr y wlad, ond mae’n teimlo nad yw’r Llywodraeth yn gwneud digon i ddiogelu eu brand.
“Dydw i ddim yn meddwl bod Llywodraeth Cymru yn cymryd y bygythiad hwn tuag at frand bwyd Cymru o ddifri,” meddai.
“Fe wnaethon nhw gael gwared ar ein gwobrau bwyd yn 2013. Roedd gan “Gwir Flas ymgyrch farchnata da, ac roedd yn adrodd cyfrolau am ansawdd ein bwyd.
“Mae angen inni ddod â’n gwobrau bwy ein hunain yn ôl, heb orfod dibynnu ar enillwyr Cymreig yng nghystadleuaeth “Great Taste” y Deyrnas Unedig.
“Dydyn ni ddim eisiau i fwyd o Gymru gael eu marchnata a’u brandio fel “bwyd o’r Deyrnas Unedig”.
“Fe allwn ni gydweithio ar yr ynysoedd hyn am fwydydd o safon uchel, ond mae’r stori ry’n ni’n eu dweud yn gorfod bod yn un sydd â blas Cymreig unigryw arno.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.